Saturday, 3 May 2008

Blog gwyryfol

. . . a dyma'r ymais gyntaf i flogio ac 'roedd mor hawdd! Bechod na fyddai popeth cyn hawsed a hynny.

Mae'n llanw a thrai gwleidyddol unwaith eto a tydw i ddim yn deall sut mae etholwyr yn medru newid eu cefnogaeth o un etholiad i'r nesaf. Sut allwch chi droi o'r dde i'r chwith? Onid oes egwyddorion sylfaenol na ellir cyfaddawdu arnynt? Gwelwyd colledion tebyg gan y Blaid Lafur yng nghymoedd y De o'r blaen, er nad cyn drymed ag yn 2008. Does dim syndod yn dilyn ffiasco dileu'r gyfradd treth incwm o 10c yn y bunt. Cyfeiriwyd mor aml yn y wasg seisnig at bobl ar gyflog isel o £18K. Mae hwnnw'n gyflog anrhydeddus iawn ar draws Cymru gyda theuluoedd niferus yn ceisio magu plant ar bres bach iawn. Pan fo gwaith i'w gael, mae cyflogau cefn gwlad, y cymoedd a threfi yn ymddangos yn bitw iawn o'u cymharu a chyflogau dinesig.

Ydych chi wedi teithio o'r Gogledd i Lundain yn ddiweddar? Rwyn gobeithio mynd ar y tren 6 o Fangor ymhen rhyw 2 fis. Ar hyn o bryd mae tocyn safonol unffordd yn £109.50. Cefais y cyngor i ffonio'n rheolaidd i fanteisio ar bris gostyngol. O brofiadau blaenorol, mae tocynnau rhad ar rhai gwasanaethau fel dannedd ieir - ddim yn bodoli. Pan ddaw ffrindiau o'r Eidal i aros, maent bob amser yn rhyfeddu at bris uchel trafnidiaeth gyhoeddus gyda'r safon tipyn is na'r hyn sy'n bodoli yn Italia - bysus sy'n hwyr, ddim yn ymddangos o gwbl, neu deithiau megis y tren i G'dydd o'r Gog yn aros ym mhob gorsaf fach ar y ffordd. Nid dyna nodweddion gwasanaeth cenedlaethol.

Digon am y tro. Dyma'r antur cyntaf. Tan tro nesaf.

No comments: